Sgubor Wersyllu a Maes Gwersylla a Charafannau Ar Fae Ceredigion

Y Beudy

Y Beudy
Sgubor wersyllu sydd ar gael – hen feudy a thaflod o gerrig a llechi gyda thrawstiau’r to i’w gweld. Mae gwelyau bunc a gwelyau gwersyllu ar gael yn y stafell fawr â charped lan staer (38′ x 18′), ac mae cegin gyflawn lawr grisiau. Y mae hefyd stafell molchi a chawod cyfagos, a dau dy bach. Cewch gwres gan wresogyddion cadw, os bydd eisiau.

Y mae angen bwcio ymlaen llaw. Deg o bobl yw’r nifer delfrydol i’r Beudy, ond gellir derbyn dros 10 os bydd eisiau. Dalier sylw: dim ond un grwp sy’n aros yn y Beudy ar y tro – fyddwch chi ddim yn rhannu gyda grwp arall.

Lleoliad
Rydym tua hanner milltir o bentre Llangrannog ar lan y môr, gyda golygfa agored o’r môr. Yn y pentre, mae traeth, siopau bwyd ac anrhegion, swyddfa’r post, eglwys a chapel, tafarnau a chaffis, llethr sgïo Gwersyll yr Urdd, a llwybrau hyfryd ar y clogwyni.

Pris
£10 y person y nos. Wrth bwcio am wythnos fel grwp y gost lleiaf yw £170 .Telir am drydan drwy fesurydd £1
Dewch â dillad cynnes, sach cysgu, clustog, a llieiniau sychu llestri.

Gwerylla a Charafannau
Mae rhywfaint o le ganddom argyfer gwersylla a charafannau. Y pris gwersylla yw £5.50 y pen pob nos, carafanau £8.50 y nos gyda adlen yn £2.50 y noson. Mi fydd trydan yn gost ychwanegol o £1.50 y noson.

Contact: Catrin & Pob, Maes y Morfa, Llangrannog, Ceredigion, SA44 6RU - pob.thomas@btinternet.com - 07950 568 538