Yr Ardal
Mae Llangrannog 11 milltir i’r gogledd o Aberteifi. Yn ogystal â’r arfordir trawiadol o glogwyni a baeau bychain, golygfeydd hyfryd Dyffryn Teifi a mynyddoedd y Preseli gerllaw, y mae llawer o gyfleusterau i ymwelwyr yn yr ardal: e.e. marchogaeth, pwll nofio, canolfan hamdden, rheilffordd ager, amgueddfa felin wlân, canolfan bywyd gwyllt, parc pili pala, theatr a.y.b.