Y Beudy
Y Beudy
Sgubor sydd ar gael – hen feudy a thaflod o gerrig a llechi gyda thrawstiau’r to i’w gweld. Mae gwelyau bync a ffwtons’ ar gael yn yr ystafell fawr i fyny grisiau(38′ x 18′), a chegin gyflawn/ardal fyw ar y llawr gwaelod. Y mae hefyd ystafell ymolchi yn cynnwys dau gawod a dau dy bach yng nghlwm wrth yr adeilad. Cewch gwres gan wresogyddion cadw, os bydd eisiau.
Y mae angen bwcio ymlaen llaw. Mae’r Beudy yn cysgu hyd at 20 o bobl. Dalier sylw: dim ond un grwp sy’n aros yn y Beudy ar y tro – ni fyddwch yn rhannu gyda grwp arall.
Lleoliad
Rydym tua hanner milltir o bentref glan môr hyfryd Llangrannog. Yn y pentref, mae traeth, siopau bwyd ac anrhegion, swyddfa’r post, eglwys a chapel, tafarnau a chaffis, llethr sgïo Gwersyll yr Urdd, a llwybrau hyfryd ar y clogwyni.
Pris
£12.50 y person y nos gydag isafswm o £50 y noson. Telir am drydan drwy fesurydd £1
Dewch â dillad cynnes, sach cysgu, clustog, a llieiniau sychu llestri.
Gwerylla a Charafanau
Mae gennym rhywfaint o le argyfer gwersylla a charafanau. Pris gwersylla yw £6.50 y pen pob nos, a charafanau £16.50 y nos (adlen a thrydan yn y pris).